Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:35 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Helen Bedford, UCL Institute of Child Health John Burge, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dr Sara Hayes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Andrew Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Marion Lyons, Iechyd Cyhoeddus Cymru Joff McGill, Sense Dr Ian Millington, Pwyllgor Meddygol Lleol Abertawe Bro Morgannwg Nick Morris, Sense Dr Gillian Richardson, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Andrew Riley, Uwch-swyddog Meddygol Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Andy Williams, Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro
2.1 Cafodd David Rees ei ethol yn Gadeirydd dros dro.
3 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething a Ken Skates ar ôl iddynt gael eu penodi yn Ddirprwy Weinidgoion i Lywodraeth Cymru a gan Elin Jones a Darren Millar. Roedd Leighton Andrews a David Rees yn dirprwyo.
3.2 Datganodd Leighton Andrews, at ddiben eitem 4b, ei fod yn athro anrhydeddus yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd.
4 Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - tystiolaeth ar lafar
Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
Tystiolaeth ar rôl y cyfryngau
4.2 Bu Dr Andy Williams yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
4.3 Cytunodd Dr Williams i ddarparu copi o'r canllawiau i newyddiadurwyr a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Cyfryngau Gwyddoniaeth.
Tystiolaeth gan Sense ac UCL Institute of Child Health
4.4 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
4.5 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
4.6 Cytunodd Dr Sandifer i roi manylion am nifer y brechiadau MMR a roddwyd yn ardal Abertawe yn ystod yr ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i gael y brechiad yn 2005-6.
Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
4.7 Bu'r Gweinidog a Dr Hussey yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
4.8 Cytunodd Dr Hussey i roi eglurhad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu tystiolaeth ysgrifenedig am yr ymgyrch dal i fyny genedlaethol yn 2005. Cytunodd Dr Hussey gadarnhau, hefyd, a oedd y llythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i fyrddau iechyd yn 2009 yn eu hannog i gydymffurfio â Chylchlythyr Iechyd Cymru 2005 yn un generig neu'n un a oedd yn canolbwyntio ar ardal ddaearyddol benodol.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
5.2 Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol ei fod wedi cytuno ar ei adroddiad Cygnod 1 ar gyfer y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac y bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn 19 Gorffennaf .
Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan BMA Cymru
5.3 Nododd y Pwyllgor y papur.
Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru
5.4 Nododd y Pwyllgor y papur.